Mae'r PhD hwn yn brosiect rhyngddisgyblaethol sy'n bwrw golwg dros naratifau amlhaenog safle treftadaeth yn y gogledd, sef Ystad y Penrhyn. Mae’r project yn bwrw golwg dros hanes, y cyfryngau, treftadaeth a thwristiaeth, a’r nod yw dehongli dylanwad y Penrhyn yn lleol ac yn fyd-eang, gan ddefnyddio gwahanol leisiau o’r byd academaidd a'r fro.
Bydd dulliau cymysg a dwy ran iddo. Yn gyntaf bydd dadansoddiad testunol o arweinlyfrau Castell Penrhyn. Yna caiff y podlediad ei addasu o fformat yr arweinlyfrau, a'i ailgynllunio i weddu i natur haenog hanes yr Ystad a defnyddiau’r dechnoleg newydd yn y diwydiant treftadaeth. Yn y pen draw, bydd y project yn adnodd digidol sy'n cyflwyno naratifau a safbwyntiau amrywiol ar Ystad y Penrhyn a fydd yn fodel o’r ymarfer gorau ar gyfer ymarferwyr a'r diwydiant treftadaeth.
Mae ymchwil yn dangos y gall offer digidol fel podlediadau fod yn ddull effeithiol o adrodd straeon yn yr oes ddigidol, yn enwedig ym maes twristiaeth, gan fod y fformat yn llawer mwy cyfleus ac
amlbwrpas na thywyslyfrau traddodiadol. Bydd edrych ar y ffyrdd y gellir creu podlediadau i ymwelwyr yn gyfraniad buddiol i ymchwil mewn treftadaeth a thwristiaeth gan nad yw'n gyfrwng a ddefnyddir yn helaeth yn y sector treftadaeth ar hyn o bryd.
Prif nod y project yw creu arteffact digidol, sef podlediad, i’w ddefnyddio’n gyfrwng i hyrwyddo ystad y Penrhyn i ddarpar dwristiaid i’r gogledd Cymru, yn ogystal â gweithredu fel llwyfan lleol i rannu naratifau gan leisiau o’r gymuned ac academyddion sy'n wybodus yn hanes amrywiol yr ystad. Tri nod sylfaenol y project yw cyfleu dylanwad byd-eang a lleol Ystad y Penrhyn, cynyddu twristiaeth treftadaeth i'r ardal a chyflwyno naratifau cymunedol sy’n ymwneud â'r ystad.
Mae’r bennod hon yn dipyn o agoriad llygad wrth i Kayla Jones archwilio cysylltiad Penrhyn â’r fasnach gaethweision yn y 18fed-19eg ganrif. Wedi’i recordio yn ystod anterth y mudiad Black Lives Matter yn 2020, mae’r bennod hon yn tynnu sylw at un o lawer o safleoedd treftadaeth ledled y DU sydd wedi bod yn edrych ychydig yn agosach ar eu cysylltiadau trefedigaethol, yn cynnwys Castell Penrhyn, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng ngogledd orllewin Cymru.