Croeso i’r drydedd bennod o Podlediad Penrhyn. Yn y bennod hon, mae Kayla yn archwilio bywyd ym Mhenrhyn, o adeiladu’r castell, bywyd y gweision a’r morynion, gweithrediad y stad a bywydau’r teuluoedd oedd yn byw ac yn gweithio ar ffermydd y tenantiaid. Plasty gwledig Neo-Normanaidd wedi'i leoli ger Bangor yng ngogledd orllewin Cymru yw Castell Penrhyn . Adeiladwyd Castell Penrhyn ar gyfer yr Arglwydd Penrhyn ym 1822-37, ar safle tai bonedd cynharach, a bu’n ganolfan grym pwysig i’r teulu Pennant tan y 1950au.
Yn y ddwy bennod gyntaf, bu Kayla yn edrych ar ddechreuadau’r ystâd, o’i pherchnogion canoloesol, y teuluoedd Gruffydd a Williams i’r Pennantiaid yn y 18fed-20fed ganrif. Roedd y bennod flaenorol yn edrych ar sut y daeth planhigfeydd Jamaica a oedd yn eiddo i deulu Pennant â chyfoeth sylweddol i ogledd Cymru, cyfoeth a fuddsoddodd y teulu wedyn yn y diwydiant llechi, yr ystâd, ac adeiladu castell ysblennydd.
Ym mhennod tri, mae Kayla yn siarad â Richard Pennington, Rheolwr Tŷ a Chasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell Penrhyn ers dros 20 mlynedd, am bensaernïaeth unigryw Penrhyn a bywyd yn y plasty. Mae hi hefyd yn siarad ag Ann Dolben, gwirfoddolwr hirdymor yn y castell sydd â gwybodaeth helaeth am gasgliad celf a pherchnogion y tŷ. I ddysgu mwy am Gastell Penrhyn, eu harddangosfeydd a’r digwyddiadau diweddaraf, ewch i Wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Penrhyn dan Richard Pennant
Mae Richard Pennant yn adnabyddus am ehangu stad y Penrhyn trwy brynu tir ychwanegol yn yr ardal a thrawsnewid rhannau o’r tir ar gyfer defnydd amaethyddol a diwydiannol. Etifeddodd Richard ran o’r ystâd trwy ei briodas ag Anne Warburton ac aeth ymlaen i brynu cyfranddaliadau ychwanegol o’r elw a gafwyd o’i blanhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Plannwyd tua 600,000 o goed ar y stad, yn ogystal â chnydau fel bresych a maip, a chodwyd ffermydd a thai ar gyfer gweithwyr lleol, gan ddod â mwy o gyflogaeth i’r ardal. Yn wreiddiol roedd tŷ canoloesol ym Mhenrhyn y dechreuodd Richard Pennant ei foderneiddio; er hynny ychydig sydd ar ôl o'r adeilad hwnnw heddiw. Ei etifedd, perthynas pell o'r enw George Hay Dawkins Pennant, fyddai'n adeiladu'r castell cywrain sy'n sefyll ar y stad heddiw.
Datblygodd Borth Penrhyn, adeiladodd reilffyrdd, a buddsoddodd mewn gwelliannau amaethyddol. Tra bu chwarela ar raddfa fechan ar stad y Penrhyn ers blynyddoedd, Richard Pennant a ddechreuodd ddatblygu’r chwareli llechi ar ei stad yn fenter oedd yn tyfu.
Adeiladu Castell Penrhyn
Roedd George Hay Dawkins Pennant eisiau castell mawreddog ar i ystâd gynyddol a chyflogodd y pensaer Thomas Hopper i ddylunio ac adeiladu’r strwythur anferth o 1822-37. Erbyn hyn, roedd yr ystâd wedi tyfu’n aruthrol o’r amser yr oedd Richard yn berchen arni, ac roedd George Hay Dawkins Pennant yn dymuno adeiladu cartref a oedd yn adlewyrchu ei statws fel tirfeddiannwr mawr gyda dros 70,000 o erwau o dir.
Mae prosiectau eraill Thomas Hopper yn cynnwys Castell Gosford, Englefield House, Kentwell Hall a'r tŷ gwydr yn Carlton House ac yn aml roeddent yn ddyluniadau a oedd yn efelychu arddulliau canoloesol. Dewisodd y pensaer arddull Neo-Normanaidd ar gyfer Castell Penrhyn, a’r bwriad oedd i wedd allanol yr adeilad edrych fel castell amddiffynadwy sydd wedi sefyll yng ngogledd Cymru ers canrifoedd, ynghyd â nodweddion fel tyredau, tŵr, a gorthwr. Hefyd gosododd Hopper ffenestri gwydr lliw cywrain a rhoi goleuadau mawr, brawychus yn y neuadd fawr.
Drwyddi draw, cymerodd y tŷ tua phymtheg mlynedd i'w orffen a chostiodd tua £150,000 i'w adeiladu, tua £49,500,000 yn arian heddiw.
Tu Mewn i'r Castell
Aeth yr Arglwydd Penrhyn a'i bensaer Thomas Hooper i drafferth mawr i wneud tu mewn y castell yr un mor fawreddog â'r tu allan. Mae nenfydau yn y neuadd fawr, y parlwr, y capel a’r llyfrgell wedi’u dylunio mewn bwâu plastr cymhleth sy’n dal y llygad ble bynnag yr edrychwch. Gwnaeth crefftwyr lleol ddarnau unigryw fel gwely llechen mawr a bwrdd biliards ac maent yn dal i gael eu harddangos yn y tŷ heddiw.
Dyluniwyd dodrefn, lleoedd tân, drysau a fframiau drychau gan Thomas Hopper i ddod ag ymdeimlad o ysblander a threftadaeth ledled y castell. Y grisiau mawreddog yw un o'r prif ganolbwyntiau yn y castell ac maent yn dangos dylanwad celf Arabaidd a wynebau cerfiedig uwchben drysau.
Gyda gorthwr, ffenestri lliw, a cholofnfeydd roedd y tu mewn hefyd i fod i gyfleu’r teimlad bod y castell wedi'i adeiladu yn oes y Normaniaid. Fodd bynnag, roedd llawer o'r dodrefn a'r addurniadau yn nodweddiadol o blasty Fictoraidd, gyda phapur wal wedi'i ysbrydoli gan Asia, llyfrgell helaeth a pharlyrau ac ystafelloedd bwyta mawr i wneud argraff ar y gwesteion oedd yn dod i mewn.
Casgliad Celf Penrhyn
Roedd yr Arglwydd Penrhyn a'i ferch Alice yn frwd dros gelf, ac erbyn ei farwolaeth ym 1886, roedd yr Arglwydd Penrhyn wedi hel casgliad helaeth o baentiadau a cherfluniau sy'n cael eu harddangos drwy’r castell. Lluniodd Alice gatalog manwl o'r casgliad, a oedd yn cynnwys gwaith celf gan Van Der Veer, Thomas Gainsborough, Diego Ortez, a Van Dyck. Arddangosir portreadau o genedlaethau teulu’r Pennant yn yr ystafell fwyta, yn ogystal â phaentiadau o deulu Williams, perchnogion modern cynnar Penrhyn a gafodd sylw ym mhennod un.
Comisiynwyd paentiadau o’r chwarel yn 1832, yn rhoi cipolwg ar lethrau serth y gwelyau llechi yn ystod y cyfnod, a’r gwaith peryglus i’r chwarelwyr, a welir yn hongian ar raffau ar hyd a lled y chwarel. Mae paentiad arall yn darlunio ymweliad y Frenhines Fictoria â’r Castell ym 1859, yn anterth y diwydiant llechi yng Nghymru.
Yn 2021, bu’r arddangosfa Am Fyd yn archwilio rhywfaint o'r gwaith celf a'r gwrthrychau sydd i’w gweld ledled Castell Penrhyn trwy farddoniaeth plant o ysgolion lleol ym Mangor a Bethesda. Roedd darluniau o blanhigfeydd siwgr Penrhyn ac adar egsotig tacsidermaidd, pob un yn gysylltiedig â chaethwasiaeth drawsiwerydd neu'r Ymerodraeth, ar hyd y tŷ ochr yn ochr â barddoniaeth a ysgrifennwyd am eu hymateb i'r gwrthrychau. I ddysgu mwy am Am Fyd, edrychwch ar yr arddangosyn ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu gwyliwch y fideo isod.
Gweithio yng Nghastell Penrhyn
Roedd gweithio yng Nghastell Penrhyn yn waith prysur, gydag oriau gwaith hir i weision a morynion yn y 1900au cynnar. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gofnodion am weithwyr fel cogyddion, howsgiper, morynion a gweision lifrai a oedd yn gweithio yn y castell. Siaradodd Richard â Kayla am sut y byddai’r tŷ wedi gweithio gyda thair ar hugain o forynion tŷ, staff cegin a golchdy ac un ar ddeg o staff gwrywaidd yn y tŷ a’r stablau.
Ochr yn ochr â gwasanaethu'r teulu pan oeddent gartref, roedd y staff hefyd yn gorfod paratoi ar gyfer partïon mawreddog, ymweliadau brenhinol, a digwyddiadau estynedig fel helfeydd a gwyliau. Paratodd y staff yn arbennig ar gyfer arhosiad y Frenhines Fictoria yn 1830, ac eto yn yr 1850au, gan gynllunio'n fanwl y gwely y byddai'n cysgu ynddo, y safleoedd y byddai'n ymweld â nhw ar y stad a'r prydau bwyd y byddai’n eu bwyta. Yr oedd angen wythnosau o baratoi ar gyfer ymweliad Tywysog Cymru yn 1924 pan ddaeth am barti hwyrol mawreddog a'r Eisteddfod, lle cafodd ei urddo yng ngwisg yr Orsedd. Y tro hwn, roedd yn rhaid i’r gweision baratoi chwech ar hugain o ystafelloedd gwely a pharatodd y ceginau dros 1,150 o brydau ar gyfer dau gant o westeion. Cyflwynwyd pryd naw cwrs a phryd canol nos gyda danteithion a phwdinau i westeion, ynghyd ag adloniant a oedd yn cynnwys Côr Meibion y Penrhyn.
Gallwch weld llefydd cysgu’r gweision a’r morynion yng Nghastell Penrhyn hyd heddiw, megis Ystafell y Lamp, yr Ystafell Lestri, y Gegin, a Lolfa’r Cogydd. Mae’r llyfr Penrhyn’s Servant’s Quarters yn rhoi golwg fanwl ar fywyd gweision ym Mhenrhyn ac mae ar gael ar y safle neu drwy'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Yn 2009, bu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyfweld ag Alice Evans, cyn-forwyn yng Nghastell Penrhyn, am ei phrofiad yn gweithio yno yn ferch ifanc. Manylodd Alice ar fywyd beunyddiol fel morwyn, gydag amser gweithio yn dechrau am 6 y bore, prydau’n cael eu paratoi drwy gydol yr wythnos, a rheolau gwisg llym y staff. Ewchi’r erthygl hon gan y BBC i weld y cyfweliad llawn.
Penrhyn fel Canolbwynt Grym
Er y partïon mawreddog a’r ymweliadau brenhinol, roedd Penrhyn yn wag am lawer o'r flwyddyn, gyda'r Pennantiaid yn byw yn Llundain neu'n byw yn eu tai eraill y rhan fwyaf o'r amser. Roedd y castell yn fwy o sylfaen grym i’r teulu, gyda’r Pennantiaid yn dewis aros yn eu stad yn Swydd Northampton yn amlach yn ystod tensiynau cynyddol y streic. Mwy am hynny ym mhennod pedwar.
Collodd Alan George Sholto Douglas-Pennant a’i ddau fab hynaf eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael yr ystâd i’w fab ieuengaf Hugh Napier ym 1927. Erbyn 1949, roedd llawer o’r tir wedi’i werthu, ac roedd angen cynnal a chadw’r ystâd. Etifeddodd nith Hugh, Janet Pelham y tŷ yn y pumdegau a cheisiodd fyw yn y castell am tua chwe mis. Ond heb gynnal a chadw a gwresogi priodol, roedd hi'n gweld y castell yn rhy fawr. Trosglwyddodd Jane y castell i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn fuan wedyn.
Tu Hwnt i'r Castell
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae straeon am fywydau’r rhai a oedd yn byw ac yn gweithio ar yr ystâd wedi bod yn cael eu harchwilio trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau hanes cyhoeddus. Yn 2018, cynhaliodd SYYC nifer o ddigwyddiadau o’r enw Tu Hwnt i’r Chwarel lle gallai pobl o'r ardal leol rannu pethau cofiadwy, mynychu ymweliadau archifol, teithiau archaeolegol, a darlithoedd, a chymryd rhan mewn recordiadau hanes llafar am fywyd ar Stad y Penrhyn.
Daethpwyd ag arteffactau fel lluniau, gweithredoedd, adroddiadau, a ffotograffau i mewn yn ystod y diwrnod atgofion treftadaeth. I weld arteffactau a gasglwyd ar gyfer y digwyddiad, archwiliwch Gwefan Casgliad y Werin Cymru, sydd ag arteffactau digidol a gasglwyd o bob rhan o Gymru. I ddysgu mwy am y prosiect Tu Hwnt i’r Chwarel a digwyddiadau tebyg a gynhelir gan SYYC, ewch i wefan SYYC yma.
Mae arddangosion yn y gorffennol yng Nghastell Penrhyn wedi amlygu cysylltiad yr ystâd â chaethwasiaeth, ei ran yn y diwydiant llechi, a hanes y streiciau. Daeth Kayla â’r bennod i ben trwy siarad ag Ann Dolben am eitem yn 2018 lle creodd yr awdur Manon Steffan Ros ddeuddeg stori am orffennol, presennol a dyfodol y Penrhyn. Roedd y straeon yn archwilio rhai o elfennau mwy anodd hanes Penrhyn fel Streic y Penrhyn; rhagor am hyn ym mhennod pedwar. Roedd y straeon grymus yn ffordd wych o ddangos pa mor boenus oedd digwyddiadau’r streiciau i deuluoedd chwarelyddol lleol, perthnasedd i’r Streic hyd heddiw, a sut y gellir defnyddio Castell Penrhyn fel man myfyrio a thrafod ymhlith cenedlaethau gwahanol yng Nghymru, Jamaica, a thu hwnt.
I ddysgu mwy am yr arddangosfa, edrychwch yn ôl ar dudalen Penrhyn ar y digwyddiad ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.